Amdanom ni
Ysgol gynradd 4-11 oed sydd wedi ei lleoli ym mhentref Llannon yw Ysgol Llannon. Lleolir tua hanner ffordd rhwng trefi Aberystwyth ac Aberaeron ac fe’i cynhelir gan awdurdod lleol Sir Ceredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng iaith yr ysgol ac anelir at sicrhau bod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn iddyn nhw drosglwyddo i’r ysgol uwchradd.
Ein Bwriad
- I annog y gorau o bob plentyn ac i’w helpu i gyrraedd eu llawn potensial
- I roi addysg ein plant yn gyntaf ac i anelu at welliant parhaus
- I annog plant i reoli eu dysgu gydag annibyniaeth gynyddol
- I greu ysgol gall y gymuned fod yn falch ohoni
Ein Gweledigaeth
Rydym yn falch iawn o rannu ein pwrpas strategol a’n dyheadau ar gyfer pob disgybl. Mae ein gweledigaeth wedi’i creu mewn partneriaeth, wedi ei lywio gan ein cymuned ac yn eiddo i’n plant, staff, llywodraethwyr a rhieni. Buom yn ymgysylltu ac yn ymgynghori â’r disgyblion, rhieni, rhandeilliaid a’r gymdeithas ehangach er mwyn sicrhau llais i bawb. Mae’r ysgol yn gymuned ddiogel sy’n gefnogol o ddisgyblion, staff, llywodraethwyr a rhieni. Mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi ac yn ymdrechu i gyrraedd ei lawn botensial mewn diwylliant o ysbrydoliaeth lle mae llwyddiant yn cael ei ddathlu. Mae ysgol Llannon yn credu’n gryf mai disgyblion dylai fod wrth wraidd y broses addysgu a dysgu ac y dylai disgyblion berchnogi eu hysgol a gwneud dewisiadau gwybodus yn gyson ynglŷn â beth a sut maent yn ei ddysgu ac felly mae gwreiddio’r 12 egwyddor addysgeg isod i gyflawni’r weledigaeth yn hanfodol.
- cynnal ffocws cyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm
- annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain
- cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a pherthnasoedd cadarnhaol
- annog cydweithio
- herio pob un o’r disgyblion trwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrech gynaledig wrth fodloni disgwyliadau sy’n uchel ond y mae modd iddynt eu cyflawni
- defnyddio cyfuniad o ddulliau, gan gynnwys y rheiny sy’n hyrwyddo datrys problemau, meddwl creadigol a beirniadol
- gosod tasgau ac yn dewis adnoddau sy’n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb
- creu cyd-destunau go iawn ar gyfer dysgu
- defnyddio egwyddorion asesu ar gyfer dysgu
- atgyfnerthu cyfleoedd trawsgwricwlaidd yn rheolaidd, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion eu hymarfer
- defnyddio cyfuniad o ddulliau sy’n cynnwys addysgu uniongyrchol
- ymestyn oddi mewn ac ar draws meysydd dysgu a phrofiad
Ein Gwerthoedd
- I greu gwerthoedd positif tuag at ddysgu.
- I gynnig anogaeth a chefnogaeth ar bob adeg, codi hunanhyder ac hunanwerth
- I greu amgylchedd gofalus, ysbrydoledig lle gall y disgyblion dyfu a dysgu
- I ddathlu cyrhaeddiad a llwyddiannau