Croeso

Mae’n bleser o’r mwyaf gennyf i’ch croesawu chi a’ch plentyn i wefan Ysgol Gymunedol Gynradd Llannon.  Mae’r ysgol yn un hapus a chartrefol ac yn weithgar iawn yn y gymuned.  Ein dymuniad ni fel staff yw bod eich plentyn yn hapus yn yr ysgol ac yn gwneud cynnydd priodol yn y meysydd cwricwlaidd ac felly rydym yn eich annog i gymryd rhan yn gyfan gwbl ym mywyd yr ysgol.  Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion yn fawr a chredwn y dylai eu hamser yn yr ysgol gynradd fod yn un boddhaus a gwerthfawr.

Mr. G.R.Davies
Prifathro

Creadigrwydd ~ Annibyniaeth ~ Gwytnwch

Diwrnod Chwaraeon Ysgol Llannon 2019
Ysgol Gynradd Gymunedol Llannon • Stryd yr Ysgol, Llannon, Ceredigion SY23 5HX
E-bost: prif@llannon.ceredigion.sch.uk • Ffôn: 01974 202 478